OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2126 (Cy. 209)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Diddymu Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Cynigion a Chyrff Rhagnodedig) (Cymru) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi amser a dull cyhoeddi’r cynigion drafft ar gyfer diddymu corfforaethau addysg bellach ynghyd â chynnwys y cynigion drafft hynny. Mae’r Rheoliadau hefyd yn darparu manylion am y broses ymgynghori y mae’n rhaid ei dilyn, ynghyd â rhagnodi’r cyrff y gall corfforaeth addysg bellach drosglwyddo ei heiddo, ei hawliau a’i rhwymedigaethau iddynt pan gaiff ei diddymu.
Mae rheoliad 3 ac Atodlen 1 yn pennu’r wybodaeth y mae’n rhaid i gorfforaeth addysg bellach ei chyhoeddi am ei diddymiad arfaethedig. Mae rheoliad 3 hefyd yn darparu pa bryd ac ym mha le y mae’n rhaid i’r gorfforaeth addysg bellach gyhoeddi’r wybodaeth hon.
Mae rheoliad 4 yn nodi at bwy y mae’n rhaid anfon copi o'r cynnig diddymu, a’r broses ymgynghori y mae’n rhaid ei dilyn.
Mae rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn rhagnodi’r cyrff y gall corfforaeth addysg bellach drosglwyddo ei heiddo, ei hawliau a’i rhwymedigaethau iddynt pan gaiff ei diddymu.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2126 (Cy. 209)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Diddymu Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Cynigion a Chyrff Rhagnodedig) (Cymru) 2014
Gwnaed 6 Awst 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Awst 2014
Yn dod i rym 1 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 27(2) i (4), 27B(1) a 89(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992([1]).
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diddymu Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Cynigion a Chyrff Rhagnodedig) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Medi 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Cyhoeddi cynigion ar gyfer ddiddymu corfforaethau addysg bellach
3.—(1) At ddibenion adran 27(2) a (3) o’r Ddeddf rhaid i’r gorfforaeth gyhoeddi’r cynnig yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Rhaid i’r cynnig gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 1.
(3) Rhaid i’r gorfforaeth gyhoeddi’r cynnig o leiaf chwe mis cyn y dyddiad a bennir yn y cynnig ar gyfer diddymu’r gorfforaeth.
(4) Rhaid i’r gorfforaeth gyhoeddi hysbysiad o’r cynnig:
(a) mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal a wasanaethir gan y sefydliad y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef,
(b) mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg ledled Cymru,
(c) ar wefan y sefydliad.
(5) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) gynnwys o leiaf yr wybodaeth a ganlyn:
(a) enw’r gorfforaeth addysg bellach ac enw’r sefydliad o dan sylw (os yw’n wahanol),
(b) y dyddiad a gynigir ar gyfer diddymu’r gorfforaeth addysg bellach,
(c) y weithdrefn ar gyfer cael copi o’r cynnig.
Ymgynghori
4.—(1) Rhaid i’r gorfforaeth anfon copi o’r cynnig ar gyfer diddymu at:
(a) corff llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg bellach o fewn yr ardal awdurdod lleol y mae’r sefydliad wedi ei leoli ynddi,
(b) corff llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg uwch o fewn yr ardal awdurdod lleol y mae’r sefydliad wedi ei leoli ynddi,
(c) corff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir sy’n darparu addysg sy’n addas ar gyfer gofynion personau dros oedran ysgol gorfodol o fewn yr ardal awdurdod lleol y mae’r sefydliad wedi ei leoli ynddi,
(d) yr awdurdod lleol y mae’r sefydliad wedi ei leoli yn ei ardal,
(e) Aelod Cynulliad yr etholaeth honno neu’r rhanbarth hwnnw y mae’r sefydliad y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef wedi ei leoli ynddi neu ynddo, ac unrhyw Aelod Cynulliad arall yr ymddengys i’r gorfforaeth fod y cynnig yn debygol o effeithio ar ei etholwyr,
(f) Gweinidogion Cymru,
(g) Aelod Seneddol yr etholaeth honno y mae’r sefydliad y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef wedi ei leoli ynddi,
(h) Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru,
(i) unrhyw gymdeithas a gydnabyddir gan y gorfforaeth sy’n cynrychioli myfyrwyr yn y sefydliad,
(j) unrhyw undeb llafur a gydnabyddir gan y gorfforaeth sy’n cynrychioli staff yn y sefydliad,
(k) unrhyw berson sy’n gofyn am gopi yn unol â’r weithdrefn y cyfeirir ati yn rheoliad 3(5)(c), ac
(l) unrhyw berson arall yr ymddengys i’r gorfforaeth fod ganddo fuddiant.
(2) At ddiben adran 27(4) o’r Ddeddf rhaid i’r gorfforaeth:
(a) darparu ar gyfer cyfnod o un mis o leiaf sy’n dechrau ar y dyddiad cyhoeddi a ddisgrifir yn rheoliad 3(3) er mwyn i sylwadau gael eu cyflwyno ynglŷn â’r cynnig,
(b) ystyried y safbwyntiau a fynegir mewn unrhyw sylwadau a geir o dan is-baragraff (a),
(c) cyhoeddi crynodeb o’r sylwadau a geir o dan is-baragraff (a) a chanlyniad yr ymgynghoriad ar wefan y sefydliad o fewn dau fis sy’n dechrau ar y dyddiad ar ôl i’r cyfnod ymgynghori a ddisgrifir yn is-baragraff (a) ddod i ben a chyn diddymu’r gorfforaeth, a rhoi copi papur o’r crynodeb ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw berson sy’n gofyn amdano.
Cyrff rhagnodedig
5. Mae person neu gorff wedi ei ragnodi at ddibenion adran 27B(1) o’r Ddeddf (diddymu corfforaethau addysg bellach: trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau):
(a) os yw wedi ei restru yn Atodlen 2, a
(b) os yw ei weithgareddau yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl, neu’n bennaf, yng Nghymru.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau,
un o Weinidogion Cymru. 6 Awst 2014
ATODLEN 1 Rheoliad 3(2)
1. Enw’r gorfforaeth addysg bellach ac enw’r sefydliad o dan sylw (os yw’n wahanol).
2. Cyfeiriad y sefydliad.
3. Disgrifiad cyffredinol o’r addysg a ddarperir gan y sefydliad.
4. Nifer y myfyrwyr llawnamser, nifer y myfyrwyr rhan-amser, a chyfanswm nifer y myfyrwyr yn y sefydliad.
5. Y rheswm dros gynnig diddymu’r gorfforaeth addysg bellach.
6. Y dyddiad a gynigir ar gyfer diddymu’r gorfforaeth addysg bellach.
7. Y ddarpariaeth addysgol sydd i’w gwneud ar gyfer y myfyrwyr hynny nad ydynt wedi cwblhau eu cyrsiau ar y dyddiad hwnnw.
8. Y trefniadau arfaethedig ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r gorfforaeth addysg bellach.
ATODLEN 2 Rheoliad 5(a)
At ddibenion rheoliad 5, y cyrff a ganlyn yw’r cyrff rhagnodedig:
1. Corfforaeth addysg bellach.
2. Corff llywodraethu sefydliad dynodedig.
3. Corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol.
4. Awdurdod lleol.
5. Prifysgol sy’n cael cymorth ariannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
6. Corfforaeth addysg uwch.
([1]) 1992 p. 13; mewnosodwyd adrannau 27 a 27B gan adran 3 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (dccc 1). I gael y diffiniad o “regulations” gweler adran 61(1) ac adran 90(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Gweler hefyd adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 i gael ystyr “prescribed”.